Cylch Meithrin Clocaenog

Croeso cynnes i blant 2+

Elusen gofrestredig 1181609

Cylch Meithrin drwy'r gyfrwng Cymraeg yng nghalon Clocaenog, tua 5 milltir o Rhuthun, yn cynnig gofal tymor ysgol mewn awyrgylch hapus, cartrefol a diogel.

Elusen leol sy'n cefnogi teuluoedd drwy'r Gymraeg

Ein cenhadaeth yw rhoi dechrau hapus, diogel a Chymraeg i blant ifanc. Fel elusen gofrestredig, rydym yn darparu gofal plant, addysg blynyddoedd cynnar a gweithgareddau chwarae i blant 2+ yng Nghlocaenog a'r ardal gyfagos.

Rhif elusen
1181609
Ardal gwasanaeth
Clocaenog, Rhuthun a phentrefi cyfagos
Gwybodaeth y safle
  • Ein cenhadaeth yw rhoi dechrau hapus, diogel a Chymraeg i blant ifanc.
  • Rydym yn cynnal sesiynau Cylch Meithrin tymor ysgol, Ti a Fi, gweithgareddau chwarae, canu, storïau ac amser awyr agored.
  • Fel elusen, caiff ein gwaith ei gefnogi gan ffioedd, cynlluniau gofal plant, partneriaid lleol a chodi arian.
  • Rydym yn helpu plant i feithrin hyder, sgiliau cymdeithasol a chariad at y Gymraeg cyn symud ymlaen i'r ysgol.

Dysgu trwy chwarae, tyfu trwy'r Gymraeg

Ein blaenoriaeth yw hapusrwydd a diogelwch pob plentyn. Rydym yn croesawu plant o bob cefndir ieithyddol ac yn defnyddio'r Dull Trochi i gefnogi plant i fagu hyder yn y Gymraeg wrth chwarae, cymdeithasu a darganfod. Nododd adroddiad arolygu 2024 Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru fod y plant yn ymgartrefu’n gyflym, yn hapus ac yn datblygu perthnasoedd cynnes â'r ymarferwyr.

  • Amgylchedd cartrefol a chroesawgar
  • Cyfleoedd chwarae tu mewn ac yn yr awyr agored
  • Byrbryd iach a diod o ddwr neu laeth
  • Cefnogaeth i anghenion pob plentyn
Ysgol Clocaenog, safle Ysgol Carreg Emlyn yng Nghlocaenog
Ysgol Carreg Emlyn, Clocaenog Llun: Cylch Meithrin Clocaenog

Ar safle Ysgol Carreg Emlyn

Mae'r Cylch wedi ei leoli yn Ysgol Carreg Emlyn yng Nghlocaenog, tua 5 milltir o Rhuthun, gyda mynediad i ddwy ystafell, neuadd yr ysgol, iard ac ardaloedd awyr agored.

Golwg sydyn ar ein darpariad

Gwyliwch daith fer o'r ystafell i gael syniad o'r amgylchedd dysgu a chwarae.

Chwarae, darganfod a bod yn yr awyr agored

Rydym yn cynnig profiadau chwarae amrywiol sy'n cefnogi plant i gymdeithasu, magu hyder a datblygu ar eu cyflymder eu hunain.

Ardal chwarae byd bach gyda thywod, adeiladau a theganau bach

Dysgu trwy chwarae

Tywod, dwr, toes, chwarae rol, jig-sos, teganau, gemau bwrdd, canu, dawnsio a storïau.

Ardal chwarae a dysgu awyr agored gyda byrddau gweithgareddau

Chwarae awyr agored

Cyfleoedd rheolaidd i ddefnyddio iard yr ysgol, ardaloedd tu allan a'r cae chwarae.

Plentyn yn chwarae gyda phridd a photyn bach yn yr awyr agored

Ysgol goedwig

Gweithgareddau natur a choetir sy'n annog chwilfrydedd, hyder, gwaith tîm a pharch at yr amgylchedd.

Addurniadau lliwgar Cymraeg ar ffens yr ardal chwarae

Cymraeg bob dydd

Defnyddio'r Dull Trochi i gefnogi plant o bob cefndir ieithyddol i fwynhau'r Gymraeg yn naturiol.

Sesiynau tymor ysgol

Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod tymor ysgol. Mae'r ffioedd isod yn seiliedig ar y Datganiad o Ddiben diweddaraf.

Sesiwn Cost
9:00 - 11:30£15
9:00 - 13:00£24
11:30 - 13:00£9
11:30 - 15:00£21
9:00 - 15:00£36

Defnyddir ein ffioedd a'n cyllid i gynnal a gwella darpariaeth blynyddoedd cynnar elusennol y Cylch.

Cyllid a chymorth costau gofal plant

Rydym wedi cofrestru i ddarparu lleoedd drwy gynlluniau cymorth gofal plant perthnasol. Gall cymhwysedd ddibynnu ar oedran eich plentyn, eich amgylchiadau a rheolau'r awdurdod lleol neu Lywodraeth Cymru.

Dechrau’n Deg

Rhaglen blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg. Mae'n cefnogi teuluoedd gyda phlant ifanc, ac mae gofal plant Dechrau’n Deg ar gyfer plant 2 oed yn cael ei ehangu ledled Cymru.

Darllen am Dechrau’n Deg

10 awr addysg gynnar

Rydym yn derbyn lleoedd addysg gynnar 10 awr pan fydd plentyn yn gymwys. Yn Sir Ddinbych, mae hyn fel arfer ar gyfer plant yn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.

Gwybodaeth Sir Ddinbych

Cynnig Gofal Plant Cymru 30 awr

Rydym yn derbyn Cynnig Gofal Plant Cymru. Gall rhieni cymwys plant 3 a 4 oed gael hyd at 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi'i ariannu.

Gwirio cymhwysedd

Cysylltwch â ni os hoffech drafod pa gymorth allai fod ar gael i'ch teulu.

Sesiwn aros a chwarae i blant bach a'u teuluoedd

Mae Ti a Fi yn sesiwn anffurfiol lle gall rhieni, gofalwyr a phlant bach ddod at ei gilydd i chwarae, canu, sgwrsio a dod i adnabod y Cylch. Mae'n ffordd hamddenol o gyflwyno plant i'r Gymraeg, y staff a'r amgylchedd cyn dechrau sesiynau Cylch.

Holwch am Ti a Fi
  • Dydd Iau yn ystod tymor ysgol
  • 9:15 - 10:45
  • £2 y plentyn + 50c i bob plentyn ychwanegol
  • Croeso i deuluoedd o bob cefndir ieithyddol

Tîm y Cylch

Dyma'r tîm sy'n croesawu'r plant bob dydd ac yn rhoi gofal tyner, creadigol a phriodol i bob plentyn.

Llun o Anti Jane

Anti Jane

Arweinydd y Cylch

Newydd gwblhau cymhwyster Gofal Plant Lefel 3 ac wrth ei bodd yn gweld y plant yn tyfu o'r Cylch i'r ysgol.

Llun o Anti Vikki

Anti Vikki

Cwîn cynllunio a chrefft

Gyda 15 mlynedd o brofiad a chymwysterau hyd at Lefel 3, mae'n cynllunio gweithgareddau hwyliog a chreadigol.

Llun o Anti Arwen

Anti Arwen

Arbenigwr caneuon a straeon

Yn astudio Gofal Plant yng Ngholeg Cambria ac yn gyffrous i rannu caneuon a straeon gyda'r plant.

Llun o Anti Tara

Anti Tara

Pro chwarae tu allan

Gyda phrofiad mewn lleoliadau gofal plant, mae'n mwynhau bod yn yr awyr agored ac archwilio byd natur gyda'r plant.

Hoffech chi wybod mwy?

Cysylltwch i holi am leoedd, sesiynau neu ymweld a'r Cylch. Rydym yn croesawu teuluoedd o Glocaenog, Rhuthun a'r pentrefi cyfagos.

Cyfeiriad Cylch Meithrin ClocaenogYsgol Carreg EmlynClocaenogRhuthunSir DdinbychLL15 2AY Ffon 01824 750636 Symudol / WhatsApp +44 7343 073380 E-bost cylchmeithrinclocaenog@gmail.com Agor map